CREADIGOL, CYNHWYSOL A LLAWN CYFLEOEDD.

Dyma brif feysydd y BBC

  • Sarah Lancashire, Happy Valley

    ADLONIANT

    Rydym yn cynhyrchu cyfresi poblogaidd nodedig ac unigryw yn gyson ar gyfer cynulleidfaoedd y DU – o Wild Isles i Happy Valley, The Traitors i Ghosts. Roedd 7.4 miliwn wedi gwylio diweddglo dramatig cyfres 3 o The Traitors a ffilmiwyd yn Ucheldiroedd yr Alban.

  • Amol Rajan, darlledwr radio’r BBC.

    NEWYDDION

    Mae’r BBC yn darparu newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o’r radd flaenaf. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y DU ac yn rhyngwladol fel darlledwr. Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r bygythiad o gamwybodaeth.

  • David Attenborough, darlledwr y BBC.

    FFEITHIOL

    Roedd 30% o’r DU - 18.5 miliwn o bobl - wedi gwylio ein cyfres natur nodedig Green Planet gyda Syr David Attenborough. Cyflwynodd neges bwysig am werthfawrogi’r amgylchedd gan ysbrydoli ein cynulleidfa i weithredu. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.

  • Vick Hope, darlledwr radio’r BBC.

    SAIN

    Deg rhwydwaith radio ledled y DU, dau wasanaeth radio cenedlaethol yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a 39 o orsafoedd radio lleol ledled Lloegr ac Ynysoedd y Sianel. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.64bn gwaith y llynedd. Ac rydym yn darparu’r rhaglenni llafar a cherddoriaeth fyw gorau yn y DU. 

Pwrpas a Strwythur

PURPOSE AND STRUCTURE

Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. 

Rydyn ni’n gwthio ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn cynhyrchu cynnwys mae pobl yn ei garu. 

Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.

GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.

RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC >

BBC STUDIOS

BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.

RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS >

Clywed gan rhai o’n staff

  • Ebony, prentis gyda’r BBC, yn gwisgo clustiau Pudsey gyda Hacker T Dog.

    Jemma Nash

    “Ers dechrau, dwi wedi gweithio ar draws sawl portffolio ym maes Plant ac Addysg. Yr hyn sy’n fy synnu’n fawr yw’r cyfleoedd i fod yn chi’ch hun yn y gweithle.” 
    Ebony
    ⁠— Prentis Rheolwr Cynhyrchu 

  • Orlando Turner, un o weithwyr BBC Studios.

    Orlando Turner

    “Rydw i wrth fy modd bod fy swydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a rhwydweithio â phobl anhygoel a dysgu gan y dalent orau yn y diwydiant.”
    Orlando Turner
    ⁠— Peiriannydd Systemau AV, BBC Studios

  • Natalie, un o weithwyr y BBC, yn gwisgo top pinc llachar.

    Natalie Preston a Faye

    “Rwy’n gweithio fel Profwr yn y Tîm Technoleg Gynorthwyol. Mae’r ffaith bod y tîm yn bodoli yn siarad cyfrolau am sut mae’r BBC yn gwerthfawrogi hygyrchedd i bob defnyddiwr.” 
    Natalie
    ⁠— Profwr, Grŵp Cynnyrch

Ein Gwerthoedd

CYNULLEIDFAOEDD

Mae CYNULLEIDFAOEDD wrth galon popeth a wnawn.

CREADIGRWYDD

CREADIGRWYDD yw curiad calon ein sefydliad. 

YMDDIRIEDAETH

YMDDIRIEDAETH yw sylfaen y BBC - rydym yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest. 

PARCHU

Rydym yn PARCHU ein gilydd – rydym yn garedig ac rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.

ATEBOLRWYDD

Rydym yn ATEBOL ac yn cyflawni gwaith o’r safon uchaf. 

UN BBC

UN BBC - rydym yn cydweithio, yn dysgu ac yn tyfu gyda’n gilydd. 

Carwsél Gwobrau

LLEOLIADAU

Mae’r BBC yn sefydliad Prydeinig byd-eang. Gyda swyddfeydd, canolfannau cynhyrchu a stiwdios ledled y DU, mae llawer o gyfleoedd i weithio i’r BBC yn eich cymuned leol.  Yn fyd-eang, ar draws Newyddion a BBC Studios, rydym yn gweithredu mewn dinasoedd mewn dros 60 o wledydd.

Does dim modd i ddarllenwyr sgrin ddarllen y map canlynol mae modd chwilio ynddo.

Dilynwch y ddolen hon i fynd i'n tudalen Chwilio am Swyddi i chwilio'n haws drwy'r swyddi sydd ar gael.

AI DYMA’R BBC I CHI?

CREADIGOL, CYNHWYSOL A LLAWN CYFLEOEDD.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD

Ni yw’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw yn y byd, gan greu cynnwys unigryw o safon fyd-eang bob dydd y mae miliynau o bobl yn y DU a ledled y byd yn ei garu ac yn ymddiried ynddo.

ADLONIANT

Rydym yn cynhyrchu cyfresi poblogaidd nodedig ac unigryw yn gyson ar gyfer cynulleidfaoedd y DU – o Wild Isles i Happy Valley, The Traitors i Ghosts. Roedd 7.4 miliwn wedi gwylio diweddglo dramatig cyfres 3 o The Traitors a ffilmiwyd yn Ucheldiroedd yr Alban.

NEWYDDION

Mae’r BBC yn darparu lefel ddiguro o newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y wlad hon a’r darlledwr newyddion rhyngwladol mwyaf dibynadwy. Rydyn ni’n chwarae rhan bwysig yn helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad a ddaw yn sgil camwybodaeth.

FFEITHIOL

Roedd 30% o’r DU - 18.5 miliwn o bobl - wedi gwylio ein cyfres natur nodedig Green Planet gyda Syr David Attenborough. Cyflwynodd neges bwysig am werthfawrogi’r amgylchedd gan ysbrydoli ein cynulleidfa i weithredu. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.

SAIN

Deg rhwydwaith radio ledled y DU, dau wasanaeth radio cenedlaethol yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a 39 o orsafoedd radio lleol ledled Lloegr ac Ynysoedd y Sianel. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.64bn gwaith y llynedd. Ac rydym yn darparu’r rhaglenni llafar a cherddoriaeth fyw gorau yn y DU. 

PURPOSE AND STRUCTURE

Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. 

Rydyn ni’n gwthio ffiniau, yn herio’r meddwl ac yn cynhyrchu cynnwys mae pobl yn ei garu. 

Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.

GWASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

Mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.

RHAGOR O WYBODAETH AM WASANAETH CYHOEDDUS Y BBC

BBC STUDIOS

BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.

RHAGOR O WYBODAETH AM BBC STUDIOS

“I LOVE THAT MY JOB HAS GIVEN ME THE OPPORTUNITY TO MEET AND NETWORK WITH SOME AMAZING PEOPLE AND LEARN FROM THE BEST TALENT IN THE INDUSTRY.”

“Rydw i wrth fy modd bod fy swydd wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a rhwydweithio â phobl anhygoel a dysgu gan y dalent orau yn y diwydiant.”
Orlando Turner
Peiriannydd Systemau AV, BBC Studios

“WORKING ALONGSIDE THE BBC DURING MY APPRENTICESHIP HAS BEEN AMAZING. THE TEAM AND PEOPLE I HAVE MET HAVE BEEN SO COMFORTING AND I FEEL VERY SUPPORTED.”