Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn cyntaf, Awst 3
- Cyhoeddwyd
Lluniau o ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.
Un o fanteision cyrraedd y maes yn gynnar i Tomi a Caio, a'u tad Pryderi, o Lwyndyrus ger Pwllheli, oedd eu bod wedi cael tocyn i sioe Cyw o flaen pawb arall
Mae'n amser prysur i Leusa o Gaernarfon: mae'n cystadlu ar yr unawd, yr unawd cerdd dant a'r alaw werin
Bore'r bandiau pres yw bore Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod
Gobeithio nad oes 'na droseddau celf yn cael eu cyflawni ar y maes?
Mae Gwenlli a Sophie wedi dyfeisio steil gwallt newydd ar gyfer y Steddfod - os mêts!
Un o brosiectau celf yr Eisteddfod yw'r pasbort i Fwrdeistref Rydd Llanrwst sydd ar gael ar y Maes - Dafydd, yma'n cadw llygad barcud ar y mynd a'r dod, yw un o'r swyddogion pasbort
Cwsmer hapus! Mae Rachel Mason wedi cynhyrfu'n lân gyda'i phasbort newydd hi!
Lona gyda'i mab Elis o Garmel, Dyffryn Nantlle, yn aros i fynd i mewn i'r Pafiliwn i weld ei mab arall, Sion, yn cystadlu gyda Band Nantlle
Roedd Susan a Pat yn cystadlu gyda Chôr Alaw b'nawn Sadwrn. Mae'r ddwy yn dod o Loegr yn wreiddiol a dydi Susan ddim yn siarad Cymraeg, ond mae wrth ei bodd yn canu yn yr iaith.
Mae merched sir Gâr yn barod i dynnu peint neu ddau yn y bar Syched
Mae'r artist André Stitt wedi creu gwaith celf gyda chloriau hen recordiau sengl Cymraeg
Ymadrodd fydd i'w glywed fwy nag unwaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Byddai'r dyn yma wrth ei fodd yn Llanrwst yr wythnos hon - mae sioe amlgyfrwng arbennig am Orig Williams, y reslar El Bandito, i'w weld yn y Lle Celf
Fedrwch chi ddyfalu llun pwy mae Aur Bleddyn yn ei dynnu ar gyfer murlun stondin Sain i ddathlu eu hanner canmlwyddiant? Bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu ddydd Mercher...
Beth yw'r ots am y glaw pan mae pawb wedi cofio dod ag ambarél?
Hefyd o ddiddordeb: