Ar ôl dwy flynedd o fod ar lein, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl, gyda Maes go iawn yn rhoi'r cyfle i bobl ddal fyny hyd yn oed yn fwy na'r arferol.
Wedi dechrau wythnos eithaf glawog, fe ddaeth yr haul - a gyda hynny bu nifer fawr yn mwynhau'r gigs ar Lwyfan y Maes yn ystod y dydd a gyda'r nosau. Ac oedd, roedd teilyngdod hefyd.
Dyma gasgliad o'r lluniau sy'n rhoi cip ar stori'r ŵyl o orielau Cymru Fyw yn ystod yr wythnos.
Erin o Fryniwan, ger Caerfyrddin yn helpu Taid gyda'r troli
Merin yn fodlon wrth Bar Williams Parry - bar newydd Maes yr Eisteddfod
Y bandiau pres sy'n cystadlu ar benwythnos cynta'r Eisteddfod, ac mae'n bwysig cynhesu'r offeryn gefn llwyfan cyn perfformio
Yma o Hyd - Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes nos Sul
... ac roedd miloedd o bobl o bob oed yn ei wylio
Osian, sy'n chwe blwydd oed ac yn dod o Gaerfyrddin, yn canolbwyntio tra'n defnyddio'r bwa a saeth
Esyllt Maelor, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Ifan o Benrhyn-coch, yn cofleidio un o eiconau Cymru, Mistar Urdd
Aelodau o Gôr Meibion y Mynydd yn cyfarfod dros beint yn y Pentre' Bwyd
Euros o Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, yn mwynhau ei Steddfod gyntaf
Pwy sy'n edrych ar bwy? Mwynhau yn y Lle Celf
Gwilym Bowen Rhys yn morio canu ym mhabell Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y gynulleidfa'n mwynhau
Peidiwch â gwneud hyn gartref... arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Roedd dros 200 o bobl ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith am y sefyllfa ail dai
Un o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y Maes
Y Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' yn ôl ei enw barddol - yn cael ei dderbyn i'r Orsedd, a hynny i gymeradwyaeth hiraf y seremoni
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei gadeirio gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Dechreuodd dydd Sadwrn ola'r Eisteddfod gyda dirgelwch... diflaniad rhai o lythrennau'r gair Eisteddfod ar y Maes. Roedd rhai'n dweud mai trefnwyr yr ŵyl oedd tu cefn i'r cyfan, eraill yn amau bod Twm Siôn Cati yn ôl yn yr ardal
Y mezzo-soprano o Ddinbych Ceri Haf Roberts wnaeth ennill Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas